Cronfa Aled Roberts i hybu gofal diwedd oes yn Gymraeg

Aled RobertsFfynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Aled Roberts o ganser yn 59 oed yn 2022

  • Cyhoeddwyd

Mae cronfa gwerth £28,000 wedi ei sefydlu yn enw'r diweddar gomisiynydd iaith, Aled Roberts, gyda'r nod o helpu staff gofal diwedd oes ddefnyddio mwy o Gymraeg gyda chleifion.

Bu farw Mr Roberts o ganser yn 59 oed yn 2022, ac roedd eisoes yn trafod pwysigrwydd rhoi gofal i gleifion Cymraeg yn eu mamiaith gyda'r elusen Macmillan cyn gwybod ei fod yn wael ei hun.

Mae'r elusen nawr yn cydweithio gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i greu pecyn arbennig o adnoddau dysgu Cymraeg ar gyfer timau gofal lliniarol a gofal diwedd oes.

Mae'r cynllun yn ganlyniad nawdd sy'n cynnwys rhoddion er cof am Mr Roberts.

Mae'r adnoddau'n cynnwys cwrs hunan-astudio byr, sy’n cyflwyno geiriau ac ymadroddion addas i weithwyr gofal lliniarol a gofal diwedd oes, a chwrs preswyl dysgu Cymraeg er mwyn codi hyder staff.

'Tynnu straen o sefyllfa anodd'

“Roedd Aled wedi dechrau ar y gwaith o drafod pwysigrwydd y Gymraeg gyda Macmillan yn rhinwedd ei swydd fel Comisiynydd y Gymraeg," dywedodd ei weddw, Llinos Roberts.

“Mi gawsom ni wedyn brofiad personol o bwysigrwydd y Gymraeg pan oedd Aled ei hun yn wael – iddo ef ac i ninnau.

"Roeddem yn ymlacio mwy pan oedd nyrs neu ddoctor yn siarad Cymraeg, ac ychydig o straen yn cael ei dynnu o sefyllfa anodd."

Ffynhonnell y llun, Llinos Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llinos Roberts yn diolch am y rhoddion i'r gronfa a fydd nawr yn help i sicrhau bod staff yn gallu siarad mwy o Gymraeg gyda chleifion ar ddiwedd eu hoes

Oherwydd eu profiad fel teulu, dywedodd Llinos Roberts bod "cynnig pecyn Dysgu Cymraeg fyddai’n galluogi mwy o weithwyr i siarad Cymraeg gyda chleifion ar ddiwedd eu hoes yn ddewis naturiol i ni".

Gan ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gronfa, dywedodd bod yr arian yn "cynnwys rhoddion hael yn dilyn marwolaeth Aled, yn ogystal ag arian gafodd ei gasglu gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a chôr Johns’ Boys".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith yw rhoi hyder i staff allu rhoi geiriau o gysur yn Gymraeg i gleifion sy'n derbyn gofal lliniarol a gofal diwedd oes

Dywedodd Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Roedd y Gymraeg yn agos iawn at galon Aled ac fe fu’n ymgyrchu’n ddiwyd dros yr iaith – wrth ei waith ond hefyd yn ei ardal enedigol oedd mor bwysig iddo."

Fe fydd y pecyn dysgu Cymraeg, meddai, wedi ei deilwra'n arbennig fel bod gweithwyr gofal lliniarol a gofal diwedd oes â'r hyder i "gynnig geiriau o gysur i gleifion a’u teuluoedd ar amser anodd".

Bydd yna hefyd gwrs preswyl blynyddol yn Nant Gwrtheyrn er mwyn codi hyder staff y maes i siarad mwy o Gymraeg.

Ddydd Mawrth, mewn digwyddiad gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yng Nghaerdydd, fe fydd tlws yn cael ei roi er cof am Aled Roberts i berson sy’n gwirfoddoli yn y sector Dysgu Cymraeg.

Pynciau Cysylltiedig