Y chwedl
Chwedl Manawydan fab Llŷr yw drydedd stori Pedair Cainc y Mabinogi.
Mae’r chwedl yn dechrau ar ôl i Manawydan gladdu pen ei frawd, Bendigeidfran, yn Llundain.
Fideo / Video
Mae’r fideo yma’n adrodd stori Manawydan fab Llŷr.
Gweithgaredd 1 / Activity 1
Creu llinell amser
Mae creu linell amser yn dechneg wych i gofio stori a threfn ei digwyddiadau.
Gosoda’r digwyddiadau yma yn eu trefn, gan nodi pethau ddigwyddodd cyn, ac ar ôl, i Pryderi a Rhiannon ddiflannu.
- Llygoden yn troi’n ferch
- Gwneud cyfrwyau
- Pryderi a Manawydan yn hela
- Picnic ar fryn Arberth
- Gwneud esgidiau
- Esgob yn cynnig £7 am y llygoden
- Llygod yn dwyn gwenith
- Niwl yn codi. Pryderi a Rhiannon yn nôl
- Esgob yn cynnig £24 am y llygoden
- Pryderi a Rhiannon yn diflannu
- Niwl yn disgyn, pawb yn diflannu
- Dal llygoden feichiog
- Plannu tri chae o wenith
- Clerig yn cynnig £1 am y llygoden
- Cigfa a Manawydan yn mynd i Loegr
- Gwneud tariannau
Os nad wyt ti’n siŵr sut mae creu llinell amser, clicia neu bwysa ar y linc yma
Gweithgaredd 2 / Activity 2
Ysgrifenna flog am gyfnod Manawydan, Rhiannon, Pryderi a Cigfa wrth iddyn nhw sefydlu eu busnesau gwneud cyfrwyau, tariannau ac esgidiau.
Os nad wyt ti’n siŵr sut mae ysgrifennu blog, clicia neu bwysa ar y linc yma.
Notes for parents
After completing the lesson, students will be able to:
- retell the myth of Manawydan Fab Llŷr with confidence
Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti
Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn
TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11